Rhif y ddeiseb: P-05-995

Teitl y ddeiseb: Rhyddid i Roi Gwaed

Geiriad y ddeiseb:  Yng Nghymru, ni chaniateir i ddynion hoyw a deurywiol roi gwaed – oni bai eu bod yn ymatal rhag cael rhyw am dri mis. Hoffem ymgyrchu dros 'Waed Heb Ragfarn' gan roi rhyddid i bobl roi gwaed. Mae'r ddeiseb hon yn gofyn i Lywodraeth Cymru gael gwared ar y cyfnod gohirio tri mis, a chyflwyno dull personol sy'n seiliedig ar risg i asesu ymddygiadau rhywiol, yn hytrach na phroses or-syml lle caiff pobl eu grwpio gyda'i gilydd ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol gan eu gwahardd rhag rhoi gwaed. Dyma'r ffordd orau o sicrhau bod y rhai sy'n awyddus i roi gwaed, ac sy'n gallu gwneud hynny'n ddiogel, yn gallu. Mae'n fater iechyd cyhoeddus ac yn fater anghydraddoldeb. Nid oes gennym ddigon o waed yn ein banciau gwaed ond eto rydym yn dewis gwahaniaethu yn erbyn grŵp cyfan o bobl ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol. Dim ond un ateb sydd i brinder gwaed yn genedlaethol; dileu'r cyfnod gohirio a rhoi'r gorau i wahaniaethu yn erbyn dynion hoyw a deurywiol

 

 


1.  Cefndir

Mae gwefan Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cynghori ei bod yn ofynnol i wasanaethau gwaed y DU gymhwyso meini prawf ar gyfer rhoi gwaed sy’n cael eu gosod gan Bwyllgor Cynghori'r Adran Iechyd ar Ddiogelwch Gwaed, Meinweoedd ac Organau (SaBTO) a'r Cydbwyllgor Cynghori Proffesiynol ar Ddewis Rhoddwyr.

Mae’n rhaid i Wasanaeth Gwaed Cymru ddilyn canllawiau llym gan SaBTO ac mae'n cael ei archwilio'n rheolaidd gan reoleiddwyr annibynnol.

Mae SaBTO yn mynd ati’n rheolaidd i adolygu’r meini prawf ar draws holl wasanaethau gwaed y DU ar gyfer derbyn rhoddwyr gwaed ar sail risg heintiad trosglwyddadwy drwy drallwysiad.

Mae gwefan Gwasanaeth Gwaed Cymru yn nodi bod yn rhaid i bob dyn aros dri mis ar ôl cael rhyw geneuol neu refrol gyda dyn arall cyn rhoi gwaed. Mae'r rheol hon yn berthnasol i bob dyn, waeth beth yw eu cyfeiriadedd rhywiol, p'un a ydynt mewn perthynas sefydlog neu p’un a ydynt yn defnyddio amddiffyniad fel condomau neu broffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP).

Os yw unigolyn yn cymryd proffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP) neu broffylacsis ôl-gysylltiad (PEP), ni fydd yn cael rhoi gwaed. Os yw'n rhoi'r gorau i gymryd PrEP neu PEP, bydd angen aros tri mis cyn cael rhoi gwaed.

Mae'r ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor dyddiedig 3 Awst 2020 yn nodi bod y rheswm bras dros wneud i ddynion sy'n cael rhyw gyda dynion ac sy'n rhywiol actif aros cyn rhoi gwaed yn seiliedig ar y ffaith eu bod nhw fel grŵp yn hysbys o fod â risg uwch o ddal haint a gludir yn y gwaed fel HIV neu Hepatitis B, a allai wedyn gael ei drosglwyddo drwy drallwysiad gwaed.

Mae'r risg uwch hon hefyd yn berthnasol i grwpiau eraill o bobl, gan gynnwys gweithwyr rhyw, pobl sydd â phartneriaid y mae’n hysbys eu bod wedi'u heintio â heintiau trosglwyddadwy drwy drallwysiad fel HIV neu hepatitis B, pobl sydd â phartneriaid o rannau o'r byd sydd â nifer uchel o achosion o HIV/AIDS, pobl sydd erioed wedi chwistrellu eu hunain â chyffuriau di-bresgripsiwn, a phobl sydd ar hyn o bryd yn cymryd PrEP neu PEP. Mae pob unigolyn yn y grwpiau mwy hyn yn cyflwyno lefel wahanol o risg yn dibynnu ar eu hamgylchiadau penodol. Ar hyn o bryd, nid yw Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cael addasu'r rheolau hyn ar gyfer unigolion a rhaid iddynt gadw at y canllawiau cyffredinol.

 

Mae gwefan Gwasanaeth Gwaed Cymru hefyd yn nodi bod yn rhaid aros am dri mis er mwyn lleihau'r risg na fydd unrhyw heintiau a gafwyd yn ddiweddar iawn yn cael eu canfod wrth sgrinio a chynnal y profion pellach y mae'r gwasanaethau gwaed yn eu gwneud ar bob rhodd.

Mae pob rhodd gwaed yn cael ei brofi ond mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn nodi bod posibilrwydd bach iawn na fydd prawf yn sylwi ar haint y mae rhoddwr wedi’i gael yn ddiweddar iawn, ond bod modd ei drosglwyddo drwy’r gwaed o hyd. Mae hyn oherwydd bod cyfnod o amser (neu ffenestr) rhwng cael haint a'i bod i’w weld yn ddibynadwy mewn profion. Os bydd rhywun yn rhoi gwaed yn ystod y cyfnod hwn, gallai fod haint yn ei waed a allai gael ei drosglwyddo i'r cleifion sy'n derbyn ei waed. Mae adroddiad gan SaBTO ar gael ynglŷn â’r rhesymeg feddygol a gwyddonol y tu ôl i'r cyfnod aros.

Ar hyn o bryd mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn rhan o’r grŵp llywio FAIR (For the Assessment of Individualised Risk), ynghyd â gwasanaethau gwaed ledled y DU, i weld a oes modd defnyddio polisi dewis rhoddwyr mwy unigol a fyddai'n rhoi ystyriaeth fwy manwl i amgylchiadau personol y rhoddwr. Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn gweithio gydag ystod o bobl a grwpiau LHDT+, gan gynnwys:

§    Yr Ymddiriedolaeth AIDS Genedlaethol

§    Stonewall

§    Freedom to Donate

§    Ymddiriedolaeth Terence Higgins

§    Arbenigwyr epidemioleg a seicoleg

Mae’r grŵp yn gobeithio adrodd ar ganfyddiadau ei waith ymchwil tua diwedd 2020.

Bu ymgyrchoedd mewn perthynas ag aros am dri mis i roi gwaed, gan gynnwys rhai gan y sefydliad Freedom to Donatea Gwaed Heb Ragfarn. Mae’r wefan Freedom to Donate yn nodi ei bod am fynd ymhellach na lleihau’r cyfnod aros o 12 mis i dri. Mae Freedom to Donate yn dadlau o blaid polisi wedi'i seilio ar risg unigolion, a fydd yn asesu ymddygiad rhywiol yn hytrach na rhywioldeb.

2.  Camau i’w cymryd gan Lywodraeth Cymru

Mae'r ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor dyddiedig 3 Awst 2020 yn pwysleisio bod Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi'i rwymo gan reolau llym o ran pwy sy’n gymwys i roi gwaed a phlasma. Mae'r rheolau yr un peth ar gyfer holl wasanaethau gwaed y DU ac ni all Gwasanaeth Gwaed Cymru wneud rheolau annibynnol sy'n mynd yn groes i’r canllawiau cenedlaethol, gan fod llawer o'r rheolau hyn wedi'u gwreiddio yng nghyfraith y DU yn Rheoliadau Diogelwch ac Ansawdd Gwaed 2005, fel sy'n wir o ran y meini prawf cymhwysedd ar gyfer dynion sy’n cael rhyw gyda dynion.

Mae'r rheolau wedi esblygu dros amser yn dilyn sawl adolygiad o’r canllawiau a wnaed gan SaBTO, a'r diwygiadau diweddaraf yw:

§  Cyn 2011 roedd rheol ar waith yn nodi na fyddai dyn sydd wedi cael rhyw gyda dyn arall byth yn cael rhoi gwaed;

§  Yn 2011, newidiwyd y gwaharddiad hwn i gyfnod aros o 12 mis, ac

§  Yn 2017, cafodd y cyfnod aros ei leihau ymhellach i dri mis.

Mae'r Gweinidog yn nodi bod y newid diweddaraf yn y DU yn 2017 i leihau'r cyfnod aros i dri mis yn rhoi’r DU mewn sefyllfa fwy manteisiol na rhai gwasanaethau eraill fel Croes Goch Awstralia, sy'n dal i osod cyfnod aros o 12 mis.

Yn ystod adolygiad diweddaraf SaBTO, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â chynrychiolwyr grwpiau cleifion a grwpiau buddiant eraill fel Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, trafodwyd y meini prawf ar gyfer dynion sy’n cael rhyw gyda dynion. 

Er bod gostyngiad 2017 yn cael ei groesawu, mae’r Gweinidog yn nodi y cydnabyddir bod angen ystyried y cyfnod aros ymhellach ac y dylid ystyried risgiau unigol yn hytrach na risg grŵp. Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y grŵp llywio FAIR, sydd â’r nod o edrych a yw’n bosibl cael dull asesu risg mwy unigol fel rhan o’r polisi dewis rhoddwyr gwaed, gan sicrhau cyflenwad diogel o waed i gleifion. Y gobaith yw y bydd yr astudiaeth yn cyflwyno adroddiad i SaBTO ar ganfyddiadau ei gwaith ymchwil tua diwedd 2020, ac mae'r Gweinidog yn nodi y bydd unrhyw newidiadau i'r canllawiau ar ddynion sy’n cael rhyw gyda dynion yn cael eu cyhoeddi bryd hynny.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir ar adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.